Shwmae {FIRST_NAME}
Swyddog Cyswllt y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus - Lleoliad Haf
Bydd Heddlu De Cymru yn hysbysebu rolau Lleoliad Haf ar gyfer Swyddogion Cyswllt y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus yn fuan. Byddwn yn agor y broses ymgeisio o 14 Hydref 2024.
Rydym yn chwilio am unigolion i ymuno â ni fel Swyddogion Cyswllt y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus pan fydd galw mawr arnom dros yr haf rhwng mis Mai a mis Medi 2025.
• 5th Mai to 31st Awst 2025.
or
• 9th Mehefin– 30th Medi 2025.
Lleolir y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus ym Mhencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr ac mae ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos yn ymateb i bob math o gyswllt gan y cyhoedd yn Ne Cymru. Prif swyddogaeth y rôl yw delio â galwadau gan y cyhoedd yn gofyn am ddiweddariadau ar ddigwyddiadau parhaus neu ddelio ag ymholiadau a allai fod angen eu cyfeirio, gan ddarparu datrysiad ar y pwynt cyswllt cyntaf lle y bo'n bosibl. Mae'r rôl yn seiliedig ar ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel, ar ôl cael hyfforddiant proffesiynol, a fydd yn rhoi'r adnoddau i ddeiliad y swydd ddiwallu anghenion a chyrraedd disgwyliadau ein cymunedau.
Bydd y rôl hon yn gyfle cyffrous i chi weithio gyda'n timau dynamig, gan ddarparu rhyngwyneb hanfodol rhwng ein cymunedau a Heddlu De Cymru a chael profiad gwaith gwerthfawr ym maes plismona ar yr un pryd.
I gael mynediad i'r rôl, defnyddiwch y ddolen isod:
Public Service Centre - Summer Placement Contact Officer - Police Jobs Wales (tal.net)
Cliciwch ar y ddolen isod i gofrestru eich diddordeb yn y cyfleoedd lleoliad haf a byddwn yn anfon e-bost atoch gyda'r ddolen ymgeisio pan fydd wedi agor ar gyfer ceisiadau.
South Wales Police Talent Bank - Police Jobs Wales
Cynhelir sesiwn holi ac ateb nos Lau 17eg Hydref ym Mhencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr neu ddydd Mawrth 29 Hydref ar-lein. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen berthnasol isod:
17 Hydref
https://www.eventbrite.co.uk/e/psc-summer-placement-qa-session-17th-october-2024-tickets-1041784043117
29 Hydref
https://www.eventbrite.co.uk/e/psc-summer-placement-qa-session-29th-october-2024-tickets-1041920120127
Mae Heddlu De Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ac arwyddocâd cael gweithlu amrywiol er mwyn helpu i ehangu ein gallu a'n capasiti i gyflwyno perfformiad o ansawdd uchel i'n cymunedau amrywiol. I gyrraedd uchelgais yr Heddlu o fod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, mae ein Tîm Gweithredu Cadarnhaol ar gael i ateb unrhyw ymholiadau ac i roi cymorth i unrhyw ymgeisydd o gymunedau ethnig lleiafrifol.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, neu os hoffech drafod Gweithredu Cadarnhaol, anfonwch e-bost at PositiveAction@south-wales.police.uk
|