Shwmae,
Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Swyddog Cadw yn y Ddalfa? Eisiau gwybod mwy am y broses gwneud cais?
Mae Swyddogion Cadw yn y Ddalfa yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i sicrhau gofal a llesiant pobl a gedwir yn y ddalfa a'u heiddo, a'u cadw'n ddiogel yn ystod y broses honno.
Maent yn helpu i sicrhau bod pedair dalfa weithredol Heddlu De Cymru yn gweithredu'n ddiogel: Bae Caerdydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe.
Mae'r rôl hon ar gyfer Swyddog Cadw yn y Ddalfa i helpu Swyddog y Ddalfa i ddarparu amgylchedd diogel yn y ddalfa a sicrhau y caiff hawliau pobl sy'n cael eu cadw yn y ddalfa eu diogelu.
Bydd yn ofynnol i chi weithio sifftiau 24/7, gan gynnwys ar Wyliau'r Banc ac ar Benwythnosau.
Ar gyfer unrhyw unigolion sy'n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, neu Unrhyw Gefndir Gwyn arall, bydd digwyddiad ymgyfarwyddo yn cael ei gynnal ar 24 a 25 Medi gyda'r nos (yng Nghaerdydd ac Ar-lein). Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn bresennol, cofrestrwch drwy ddefnyddio'r dolenni isod:
Ar-lein dros Microsoft Teams – 24 Medi, 17:30-19:30:
https://www.eventbrite.co.uk/e/south-wales-police-positive-action-cdo-familiarisation-24th-september-24-tickets-1013535049617
Gorsaf Heddlu Bae Caerdydd – 25 Medi, 17:30-19:30:
https://www.eventbrite.co.uk/e/south-wales-police-positive-action-cdo-familiarisation-25th-september-24-tickets-1013560285097
Os hoffech gofrestru eich diddordeb ar gyfer rolau/swyddi yn y dyfodol gyda Heddlu De Cymru, cofrestrwch ar ein cronfa ddata diddordeb a byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth atoch pan fydd hynny'n briodol.
https://policejobswales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-3/candidate/so/pm/8/pl/12/opp/5300-South-Wales-Police-Talent-Bank/en-GB
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar PositiveAction@south-wales.police.uk
|